Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
6 Mawrth 2024
Amser y
cyfarfod: 13.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13742
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Dechreuodd yr eitem am 13.00
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 a 7 gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 13.57
Gofynnwyd cwestiynau 1-5, 7, 9 a 11-12. Tynnwyd cwestiynau 6, 8 a 10 yn ôl. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.46
Gofynnwyd y 3 cwestiwn cyntaf.
Dechreuodd yr eitem am 14.56
Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ymgynghorwyr ac arbenigwr, arbenigwr cyswllt, a meddygon arbenigol yng Nghymru yn pleidleisio am ddau ddiwrnod o streic ym mis Ebrill ynghylch cyflogau?
Dechreuodd yr eitem am 15.04
Gwnaeth Jenny Rathbone ddatganiad am - Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (6 Mawrth).
Gwnaeth Cefin Campbell ddatganiad am - RNLI yn dathlu 200 mlynedd (4 Mawrth).
Gwnaeth Buffy Williams ddatganiad am - 40 mlynedd ers dechrau streic y glowyr (6 Mawrth).
Gwnaeth Llyr Gruffydd ddatganiad am - Beicwyr o Gymru yn cymryd rhan mewn taith o Gaeredin i Rufain ar gyfer elusen MND Doddie Aid (28 Chwefror i 7 Mawrth).
Daeth y cyfarfod i ben am 15.13
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 12 Mawrth 2024